Penarth Times - Memorials

Search Acknowledgements, Death Notices and In Memoriam within South Glamorgan

I'm looking for celebrations
Death Notice

BETHAN LLOYD

Published on 13/12/2018

LLOYD Bethan (née Jones) Yn wreiddiol o Ynysmeudwy, Cwm Tawe ond wedi byw yn Ninas Powys ers 1960. Yn dawel dydd Sul 2 Rhagfyr yn Ysbyty'r Mynydd Bychan, Caerdydd hunodd Bethan, priod cariadus y diweddar Thomas Arnold Lloyd, mam i Steve, Huw a'i wraig Theresa, mamgu annwyl i Eleri a Rhys a modryb hoffus i Wendy, merch ei brawd diweddar Arthur Gwyn a'i ddiweddar wraig Dorothy. Bydd atgofion annwyl o Bethan gan ei holl teulu, ffrindiau a thrigolion a staff Ty Dewi Sant, Penarth. Bydd yr angladd yng Nghapel Bethel, Stryd Plassey, Penarth CF64 1EL ar ddydd Llyn 17 Rhagfyr am 11.30yb. Bydd gwasanaeth byr yn Amlosgfa'r Fro, Port Road, y Barri CF62 9PX. Lluniaeth ysgafn wedyn yn y Seashore Grill, Beach Road, y Sili CF64 5UG. Dim blodau ond derbynnir rhoddion, os dymunir, tuag at Gorws Forget-me-not Llanddochau dan ofal Parkman Funeral Home, 19, Camms Corner, Dinas Powys. CF64 4QY 02922 362101


Tributes

Create a tribute, leave a message or share a picture.