A Christmas Message from the Bishop of Bangor, The Right Rev Andrew John:

‘I don’t believe it’: Fans of Victor Meldrew will remember his unforgettable ‘I don’t believe it’ outburst and the riotous disasters which followed. Those unfamiliar with ‘One Foot in the Grace’ have a treat in store via YouTube or iPlayer. Synonymous with a scepticism born of incredulity, the words became the catchphrase of the 1990s.

Though dripping with caustic wit there is something, perhaps, salutary in the outburst. And Biblical too.

When Mary was told the news she would bear a son her first response was little different; when the shepherds were told a Saviour was lying in a feeding trough, theirs was much the same.

All the ancient statements lack Victor’s acidity but they share the same disbelief.

In truth, it’s hard when the years shape certain expectations about the world, the way things are, what’s true and what isn’t.

And so, when something utterly unexpected happens, which breaks up these settled boundaries of belief, we can understand why ‘I don’t believe it’ becomes the first response.

I’ve been struck recently by the courage of some extraordinary behaviour whether seen on London Bridge by fearless and selfless human beings or by those who refuse to concede to an agenda of despair and Brexit fatigue.

I’ve seen lives touched by kindness in local foodbanks and a Fair Price Café in the city of Bangor and how change takes place in the fortunes of vulnerable people.

This capacity to change and be changed seems to me gets to the heart of what Christmas means.

When we discover the Light of the World piercing our own darkness or the wonder of a generous God reaching out in the most extraordinary of ways through a helpless child, Christmas comes alive.

It’s at this point we might choose to join the angels and sing a bit.

Or stick with Victor and say ‘I don’t believe it’. The choice is ours.

May I wish you all a very merry Christmas.

Andrew Bangor

Neges Nadolig gan y Gwir Barchedig Andrew John, Esgob Bangor{

‘Fedra i ddim credu hyn!’ (‘I don’t believe it!’):

Bydd dilynwyr Victor Meldrew yn cofio’n dda ei ebychiad rhwystredig, ‘I don’t believe it!’ mewn ymateb i gyfres o gyd-ddigwyddiadau damweiniol chwerthinllyd. Fe fase’r rhai ohonoch sy’n anghyfarwydd â ‘One Foot in the Grave’ yn mwynhau gwylio penodau ar YouTube neu iPlayer. Yn fynegiant o dalp o amheuaeth yn gymysg ag anghrediniaeth, daeth yr ymadrodd yn un o hoff ddywediadau’r 1990au.

Er ei fod yn llawn ffraethineb deifiol, mae rhywbeth ychydig yn ddyrchaf ôl, efallai, yn y geiriau. Ac yn Feiblaidd hefyd. Pan glywodd Mair y newyddion ei bod am eni mab, nid yn annhebyg oedd ei hymateb cyntaf hi; pan ddywedwyd wrth y bugeiliaid bod Ceidwad byd yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid, tebyg iawn oedd eu hymateb hwythau.

Dydy’r datganiadau hanesyddol rheini ddim yn cynnwys surni Victor, ond maen nhw’n rhannu’r un anghrediniaeth. Mewn gwirionedd, mae hi’n anodd pan fo’r blynyddoedd yn llunio disgwyliadau penodol am y byd, sut mae pethau i fod, be’ sy’n wir a be’ sy ddim. Ac felly, pan fo rhywbeth cwbl annisgwyl yn digwydd, sy’n chwalu ffiniau arferol yr hyn sy’n gredadwy, mae’n hawdd deall pam mai ‘Fedra i ddim credu hyn!’ ydy’r ymateb cyntaf.

Dwi wedi fy nghyffwrdd yn ddiweddar gan ddewrder yr adwaith rhyfeddol a welwyd ar Bont Llundain gan ddynion gwrol ac anhunanol neu gan y rhai sy’n gwrthod ildio i awyrgylch o anobaith a Brexit blinderus. Fe welais fywydau’n cael eu cyffwrdd trwy garedigrwydd banciau bwyd lleol a Chaffi Pris Teg ym Mangor a sut y gwelir newid yn amgylchiadau pobl bregus. Mae hi’n ymddangos i mi fod y gallu hwn, i newid a chael ein trawsnewid, yn mynd at wraidd ystyr y Nadolig. Pan deimlwn ninnau Oleuni’r Byd yn treiddio ein tywyllwch ni neu ryfeddod Duw hael sy’n estyn allan yn y ffordd fwyaf anhygoel trwy fabi diymadferth, dyna pryd y daw’r Nadolig yn fyw.

Yr eiliad honno ydy’r groesfan lle gallwn un ai ymuno â’r angylion a bloeddio canu... neu styfnigo fel yr hen Victor a dweud ‘I don’t believe it’. Ni biau’r dewis.

Hoffwn ddymuno Nadolig llawen iawn ichi i gyd.

+Andrew Bangor